menai-toddler-room

Yn ystafell y plant bach, mae gennyn ni blant rhwng dwy oed a phlant oed cyn ysgol. Mae'r plant yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau fel paentio rhydd, darlunio, gludo a glynu i feithrin eu hochr greadigol.

Gan ein bod ni'n dilyn y Cyfnod Sylfaen, mae'r plant yn rhydd i ddewis beth maen nhw'n dymuno ei wneud. Rydyn ni hefyd yn cynllunio o amgylch yr hyn sydd o ddiddordeb i'r plant ac yn adeiladu ar y wybodaeth sydd ganddyn nhw'n barod.

Mae plant yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae sy'n gwneud llanast, fel chwarae gyda chlai 'play dough' a 'moon sand', dŵr a llawer mwy. Mae gennyn ni lain llysiau yn yr ardd gefn hefyd, lle mae'r plant yn mwynhau tyfu ffrwythau a llysiau, yn ogystal ag amrywiaeth eang o flodau lliwgar.

Rydyn ni'n credu bod plant yn dysgu orau drwy gael profiadau a chyfleoedd personol i ddysgu am y byd o'u cwmpas. Rydyn ni'n ffodus iawn o fod yn ardal hardd Porthaethwy, ac o fewn pellter cerdded i Ynys Tysilio, Coed Cyrnol a'r parc lleol. Rydyn ni'n ceisio gwneud yn fawr o'r ardaloedd hyn mor aml â phosib, ac yn mynd am dro yn ein hesgidiau glaw, yn mynd am bicnics ac ar deithiau natur.

Yn ystod gwyliau ysgol, rydyn ni'n mynd â'r plant ar dripiau yn lleol. Rydyn ni wedi bod yng Nghanolfan RSPB Conwy, Sea Life Centre, y Rhyl, Fferm Foel, y Fferm Gwningod ac rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth Natur Genedlaethol drwy fynd ar deithiau natur.

Share

logosCitationEmploymentLawQualityMark