logo

 

 

pic01
pic02

Ystafell y Babanod

Croeso i Ystafell y Babanod, lle cartrefol, braf a chlyd i fabanod rhwng tri a deunaw mis.

Mae gan bob aelod o staff gymwysterau da, a phrofiad da o weithio gyda phlant. Mae'r ystafell wedi'i threfnu er mwyn bodloni anghenion y babanod. Mae'n ystafell glyd a llachar, ac mae eu gwaith celf gwych yn addurno'r lle.

Rydyn ni'n darparu ar gyfer pob cam o ddatblygiad babanod, gyda gwahanol deganau a chyfarpar chwarae a fydd yn arwain at brofiad synhwyrol bendigedig i helpu'ch plentyn i ddatblygu. Mae gweithgareddau'n cael eu cynllunio er mwyn cael amrywiaeth eang o dan thema wahanol bob mis.

Mae "Gweithwyr Allweddol" yn cael eu dynodi ar gyfer y babanod, a byddan nhw'n rhoi gwybod i chi sut ddiwrnod mae eich plentyn wedi'i gael yn y feithrinfa, fel nad ydych chi'n colli unrhyw beth! Bydd yr aelodau staff hyn yn arsylwi eich plentyn yn rheolaidd, ym mhob maes dysgu, ac yn cofnodi cerrig milltir arbennig ac yn creu rhywbeth i chi ei gadw er mwyn i chi edrych yn ôl ar gyfnod eich plentyn yn y feithrinfa.

Rydyn ni'n hoffi cadw'n brysur, un ai drwy chwarae a gwneud llanast o dan do neu fynd allan am dro yn yr haul a chael picnic.

Bydd y babanod yn mynd allan am dro i'r ardal leol ac ar dripiau i atyniadau lleol, byddant yn cael cyfle i wneud gweithgareddau gwneud llanast fel tywod a dŵr, a gweithgareddau crefft. Mae babanod yn dysgu drwy gael profiadau uniongyrchol, a byddant yn cael cyfle i archwilio a darganfod pethau newydd.

Pan fyddwn ni wedi blino'n lân, mae yna ystafell gysgu glyd i ni gael hoe.

Fel eich bod chi'n cael tawelwch meddwl mae system Nursery I Watch yn y feithrinfa. Gallwch chi fewngofnodi i'r system a gweld bod eich plentyn yn ddiogel yn ein gofal.

 

Cysylltwch â ni yn

Babinogion Caernarfon

Cae Llenor,
22 Wellington Terrace,
Caernarfon,
Gwynedd,
LL55 2HH

01286 672052

caernarfon@babinogion.co.uk

Cysylltwch â ni yn

Babinogion Menai

Uned 1,
Yr Hen Ysgol Gynradd Sirol,
Ffordd Pentraeth,
Porthaethwy,
LL59 5HS

01248 717427

menai@babinogion.co.uk

National Day Nurseries Association logo
Early Years Wales logo
Citation Approved logo
Clybiau Plant Cymru logo
Care Inspectorate Wales logo

© 2022 | Meithrinfa Babinogion | Gwefan gan Delwedd

Polisiau a Termau